home
organisation
forthcoming events
Association history
Association Champions
news items
links
messages & news from branches and members
forum documents
help & advice
digital lobbying
contact us

Hanes
 
Sefydlu Fforwm 50+ Caerffili

Mae Strategaeth Leol i Bobl Hŷn yn cael ei datblygu yng nghyd-destun y Strategaeth Genedlaethol i Bobl Hŷn yng Nghymru a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ionawr 2003. Nod y strategaethau yw sicrhau bod pobl 50+ oed yn cael eu hystyried yn gyfrannwyr gweithgar i’w cymunedau, ac yn ddefnyddwyr gwasanaeth hefyd. Dyma bedair prif thema’r Strategaeth Genedlaethol:
 
1.  Gwerthfawrogi Pobl Hŷn.
2.  Cymdeithas Newidiol.
3.  Byw Bywyd Hirach a Iachach.
4.  Ymdopi â Dibyniaeth Gynyddol: Tai, Gofal Cymdeithasol, ac Iechyd.

Mae Grŵp aml-asiantaethol Gweithredu’r Strategaeth Pobl Hŷn wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i symud y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth yn ei flaen yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Trefnwyd y cyfarfodydd cyntaf i bobl 50+ oed gan CBS Caerffili yn ystod 2004 i greu awydd am Fforwm 50+.  O ganlyniad i’r cyfarfodydd hynny, ffurfiwyd Grŵp Llywio 50+ o wirfoddolwyr ym mis Tachwedd 2004.  Cynrychiolir y Grŵp Llywio ar y Grŵp Gweithredu’r Strategaeth Pobl Hŷn, ac ar amryw o grwpiau eraill perthnasol sy’n cydweithio â CBS Caerffili.

Bu’r Grŵp Llywio 50+ yn cyfarfod yn rheolaidd ers iddo gael ei ffurfio, ac arweiniodd hyn at gyfarfod lansio Fforwm 50+ annibynnol Caerffili ar 18 Ebrill 2005.
Mae’r Grŵp Llywio’n parhau i gyfarfod yn rheolaidd bob mis ac mae cyfarfodydd y Fforwm 50+ yn cael eu cynnal bob deufis.

Mae Fforwm 50+ Caerffili’n cydweithio’n agos â CBS Caerffili, ond mae’n fforwm hollol annibynnol a gaiff ei redeg gan aelodau gwirfoddol sy’n 50+ oed ac sy’n byw yn ardal Bwrdeistref Caerffili.


Home Page
| Who are we? | Forum Events | Caerphilly 50+ Forum History | News|
Useful Links | Discusssion Forum | Contact Us

Designed by Mari Walker